Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r ffenestr i fuddsoddi a dod yn aelod o Gymdeithas Budd Gymunedol Menter y Ring Cyfyngedig bellach wedi cau, ond rydym yn parhau i groesawu unrhyw gyfraniadau tuag at ein costau parhaus.
Darllenwch yr wybodaeth isod yn ofalus cyn i chi gyfrannu. Nid yw’r ffurflen hon yn derbyn taliadau ar-lein. Trwy gwblhau’r ffurflen hon rydych yn dangos eich ymrwymiad i gyfrannu. Unwaith rydych wedi cwblhau a chyflwyno’r ffurflen, byddwch yn derbyn e-bost gyda’r manylion fyddwch eu hangen er mwyn gwneud trawsgludiad BACS am y swm yr ydych am ei gyfrannu i gyfrif banc Menter y Ring Cyfyngedig. Fel arall, gallwch dalu gyda siec neu arian parod yn Siop a Chaffi Llanfrothen ym mhentref y Garreg. Bydd urnhyw gyfraniad, waeth beth yw’r swm, yn cael ei werthfawrogi’n fawr a bydd yn ein helpu i ddiogelu’r Ring ar gyfer y dyfodol. Er mwyn gwneud cyfraniad, darparwch eich enw, cyfeiriad e-bost a’r swm yr hoffech ei gyfrannu yn y ffurflen isod. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth!Cyn i chi gyfrannu...