RHAN GYNHENID O’R GYMUNED
Soniwch wrth unrhyw un eich bod o Lanfrothen a’r ateb fel arfer fydd; ‘O ia, Y Ring’. Mae’r Ring wedi bod yn rhan annatod o bentref Y Garreg Llanfrothen ers y dyddiau pan wisgai pobl fwclau ar eu hesgidiau ac arwain anifeiliaid dros y mynyddoedd i’r farchnad, cyn adeiladu’r Cob a thonnau’r môr yn cosi grisiau cefn y dafarn.
AWYRGYLCH FYWIOG A LLEOLIAD GIGS CHWEDLONOL
I bobl yr ardal, tafarn y bobl leol ydi’r Ring, ond i’r cerddwyr a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal, mae’n dafarn iddyn nhw hefyd, a byddant yn ymweld dro ar ôl tro.
MENTER Y RING CYFYNGEDIG – CYMDEITHAS BUDD GYMUNEDOL
Mae Menter y Ring Cyfyngedig, sef Cymdeithas Budd Cymunedol, wedi prynu prydles y Ring gydag arian a godwyd trwy werthu cyfranddaliadau. Gyda chefnogaeth dros 900 o aelodau’r Gymdeithas bydd y Ring unwaith eto yn galon i gymuned Llanfrothen, ond ar ein telerau ni y tro hwn.
CYFRANNU TUAG AT DDYFODOL Y RING
Gallwch ein helpu i wireddu dyfodol hyfyw i’r Ring fel tafarn gymunedol trwy roi cyfraniad.
Byddwch yn rhan o’r criw fydd yn sicrhau fod y dafarn yn parhau i fod yn hwb bywiog a Chymreig ar gyfer cymuned Llanfrothen a thu hwnt.