2024

4 Medi – hysbysiad gan fragdy Robinsons y byddai prydles y Brondanw Arms yn cael ei roi ar y farchnad agored cyn hir.

14 Medi – diwrnod olaf i’r Ring fod ar agor.

16 Medi – dros 70 o unigolion yn mynychu cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Siop a Chaffi Llanfrothen; penderfynwyd ffurfio grŵp llywio – Menter y Ring – er mwyn ceisio prynu’r brydles i’r gymuned.

17 Medi – lansio apêl am fenthyciadau er mwyn gallu rhoi cynnig am y brydles – codwyd £200k o fewn wythnos; derbyniwyd y cynnig gan Robinsons.

7 Tachwedd – Cofrestrwyd Menter y Ring Cyfyngedig yn ffurfol fel Cymdeithas Budd Gymunedol.

Tachwedd 2024-Chwefror 2025 – gwaith ymgysylltu cymunedol, ysgrifennu cynllun busnes, adroddiadau cyflwr, datblygu gwefan, ymgeisio am a derbyn grantiau sefydlu, paratoi cynnig cyfranddaliadau, paratoi ar gyfer y pryniant.

2025

Mawrth – cynnig cyfranddaliadau ar agor trwy gydol y mis – dros 900 o gyfranddalwyr newydd wedi codi mwy na’r targed o £200k – digon i brynu’r brydles, talu costau cyfreithiol a dechreuol, a thalu’n ôl i’r benthycwyr.

Ebrill – gwaith yn dechrau ar y ddaear er mwyn dod â’r Ring i gyflwr lle gellir ail-agor; gwaith paratoi yn cychwyn er mwyn ymgeisio am nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mai – y gwaith o chwilio am denant yn cychwyn; cynhaliwyd y penwythnos gwirfoddoli cyntaf.